Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 4
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom Dyddiad: Dydd Mercher, 12 Hydref 2022
Amser:
09.30 -
12.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12995
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Chris Vinestock, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Katrin Shaw, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Kevin Thomas, Archwilio Cymru Laurie Davies, Swyddfa Archwilio Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Craig Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (9.15 – 9.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Gohebiaeth gan Bwyllgor Cyllid a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Senedd yr Alban: Agenda codi'r gwastad - 5 Hydref 2022
3 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22, a’r Amcangyfrif ar gyfer 2023-24: Sesiwn dystiolaeth
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a swyddogion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
3.2 Cytunodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ddarparu nodyn yn egluro a fyddai ataliad o fwy na chwe mis a roddir i gynghorydd lleol yn sbarduno isetholiad yn awtomatig.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 20 Hydref 2022.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru - Craffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2021-22, a’r Amcangyfrif ar gyfer 2023-24: Trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.
6 Gwasanaethau Archwilio Allanol i Swyddfa Archwilio Cymru
6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch caffael gwasanaethau archwilio allanol i Swyddfa Archwilio Cymru. Cytunodd y Pwyllgor i benodi’r cyflenwr a argymhellwyd – sef RSM – am gyfnod cychwynnol o bedair blynedd, yn dechrau ar 2 Tachwedd 2022a gan gynnwys hawl i Swyddfa Archwilio Cymru ymestyn y tymor yn flynyddol, hyd at gyfanswm hyd o 7 mlynedd.
7 Goblygiadau ariannol Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd arno gyda mân newidiadau.